Rhondda Cynon Taf County Borough Council - Rhondda Heritage Park Ticket Portal

Terms & Conditions

                                                 Teithiau'r Aur Du

                                    Telerau ac Amodau Gwerthu Tocynnau

  • Mae'r profiad Aur Du yn cynnwys teithiau tywys uwchben y ddaear a dan ddaear. Nodwch fod ardaloedd o'r atyniad yma'n dywyll.
  • Er budd diogelwch a chysur pob gwestai, fe ddylech chi fod yn iach a heb salwch teithio. Ddylech chi ddim bod ag unrhyw broblemau yn ymwneud â'r galon, anadlu, y cefn, y gwddf, neu unrhyw gyflyrau eraill a allai gael eu gwneud yn waeth gan yr atyniad. Caiff effeithiau arbennig eu defnyddio yn yr atyniad megis fflachiadau ac effeithiau mwg. Ddylai ymwelwyr ddim cymryd rhan os oes gyda nhw sensitifrwydd meddygol i'r effeithiau yma.
  • Does dim modd cael ad-daliad a chewch chi ddim trosglwyddo tocynnau. Fodd bynnag, os ydych chi'n derbyn canlyniad prawf Covid positif, bydd eich taith yn cael ei chanslo a'i hail-drefnu i amser ar ôl eich cyfnod hunanynysu. 
  • Mae'n anochel y bydd tywydd gwael yn effeithio ar yr atyniad. Os bydd raid cau’r atyniad oherwydd ei bod yn anniogel i barhau, byddwn ni'n cynnig i chi ddod ar ddyddiad/amser gwahanol os yw’n berthnasol. Dim ond os bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gau neu'n canslo'r daith y byddwn ni'n rhoi ad-daliad i chi.
  • Gofynnwn ichi gyrraedd 10 munud cyn amser dynodedig eich taith. Oherwydd cyfyngiadau Covid, bydd raid ichi aros yn yr ardal aros a bydd tywysydd eich taith yn dod i'ch nôl chi.
  • Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os ydy aelod o'ch grŵp chi'n defnyddio cadair olwyn.
  • Drwy fynd i mewn i'r atyniad, rydych chi'n cydnabod bod dyletswydd arnoch chi i gymryd camau rhesymol i'ch diogelu'ch hun, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gyflyrau meddygol sy gyda chi.
  • Rhaid i unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r atyniad dalu ffi fynediad neu fod â thocyn dilys. Mae angen o leiaf 2 berson i fynd ar y daith ond ddim mwy nag 18. Ein bwriad yw cynnal diogelwch ar gyfer eich grŵp a'r staff ar bob adeg.
  • Mae'n bosibl y bydd aelod o staff awdurdodedig yn cynnal archwiliad ar unrhyw un sy'n dod i'r achlysur. Os byddwch chi'n gwrthod cael eich archwilio, byddwn ni'n gwrthod mynediad i chi, neu cewch eich tynnu o'r atyniad. 
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu ysmygu (gan gynnwys ysmygu e-sigaréts) ar y safle.
  • Rhaid i chi wisgo dillad ac esgidiau addas bob amser.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid ar y daith, heblaw am gŵn tywys a chymorth.
  • Dydyn ni ddim yn caniatáu alcohol. Fyddwn ni ddim yn caniatáu mynediad i unrhyw un sydd o dan ddylanwad alcohol.
  • Byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i gynnig y profiad rydych chi'n ei ddisgwyl, fodd bynnag, efallai fydd hyn ddim yn bosibl bob amser. Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i ddiwygio neu newid y daith heb rybudd.
  • Does dim angen prynu tocyn i fynd i mewn i ardal yr Arddangosfa Aur Du, mae hyn yn rhad ac am ddim. Serch hynny, nodwch ei bod hi'n bosibl y bydd raid i bobl fynd i mewn i'r atyniad yn raddol gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.
  • Mae rhan o'r daith yn cynnwys Dram, profiad sinematig sy'n efelychiad effeithiau arbennig ac effeithiau gweledol rhyfeddol. Ddylai ymwelwyr ddim bod ag unrhyw un o'r cyflyrau canlynol: cyflyrau ar y galon neu bwysedd gwaed annormal, salwch teithio neu bendro, sensitifrwydd i synau uchel a sydyn, sensitifrwydd meddygol i oleuadau strôb ac effeithiau niwl, bod wedi cael llawfeddygaeth ddiweddar neu gyflyrau eraill yr ysgyfaint neu anadlu a allai gael eu gwaethygu gan yr atyniad yma. Dylai pobl feichiog geisio cyngor gan arweinydd eu taith cyn cychwyn ar y daith.     
  • Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un i'r atyniad, gwahardd unrhyw un o'r atyniad, neu orfodi unrhyw un i adael yr atyniad heb roi ad-daliad os bydd yn torri'r telerau ac amodau yma.
  • O ystyried y sefyllfa bresennol gyda Covid, gofynnwn i unrhyw un sy'n ymweld barchu'r holl systemau unffordd/cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau hylendid sydd ar waith.
  • Mae'n ofynnol i bob ymwelydd, oni bai ei fod wedi'i eithrio, wisgo gorchudd wyneb tra'i fod dan do.

 

                                                           Black Gold Tours

                                                Terms and Conditions of Ticket Sales

  • The Black Gold experience includes both surface and underground experience guided tours. Please note that some areas of this attraction are dark.
  • For the safety and comfort of all guests, you should be in good health and free from heart, breathing, back, neck problems, motion sickness or other conditions that could be aggravated by the attraction’s environment. Special effects are used in the attraction such as flash lighting and smoke effects visitors who have a medical sensitivity to these effects should not participate.
  • Ticket sales are final and are currently non-refundable and non-transferable. However, in the event of a positive Covid result your tour will be cancelled and re-arranged to a time after your isolation period. 
  • Inevitably bad weather can affect any attraction. If we have to close the attraction as it is unsafe to proceed, visitors will be offered an alternative date/time if applicable. A refund will only be offered if Rhondda Heritage Park is closed or cancels the guided tour.
  • Please arrive 10 minutes before your allocated tour time.  Due to Covid restrictions you will be assigned to a waiting area and collected by your tour guide.
  • Please advise us in advance if you have a wheelchair user in your party.
  • By entering the attraction, you accept that you have a duty to take reasonable steps to ensure your own safety, taking into account any personal medical conditions.
  • All persons entering the attraction must pay for admission or hold a valid ticket. Minimum 2 persons, maximum of 18 on a guided tour. Our intention is to maintain a level of safety for your group and the staff at all times.
  • Any persons entering the attraction may be searched by authorised personnel on entry or at any time during the attraction. Failure to submit to any requested search by authorised personnel will lead to refusal of admission and/or ejection. 
  • Smoking (including the use of e-cigarettes) is strictly prohibited.
  • Appropriate clothing and shoes must be worn at all times whilst at the attraction.
  • Animals are not permitted on the tour except for guide and assistance dogs.
  • The consumption of alcohol is strictly prohibited. Anyone who appears to be under the influence of alcohol will not be permitted access to the attraction.
  • Though every effort will be made to deliver the experience as advertised there may be times where this is not possible. Rhondda Heritage Park reserves the right to amend, change or alter the tour element of the attraction without prior notice.
  • Entry to the Black Gold Exhibition area is free and available without purchasing a ticket. However please note that admittance may be staggered due to social distancing in place.
  • Part of the tour includes Dram the cinematic experience which is a thrilling visual and special effects simulation. Visitors should be free from any heart conditions or abnormal blood pressure, Motion Sickness or dizziness, Sensitivity to loud and sudden noises have a medical sensitivity to Strobe lighting & Fog effects, recent surgery or other lung or respiratory conditions that may be aggravated by this attraction, expectant mothers should seek advice from their tour guide before stepping aboard.    
  • Rhondda Heritage Park reserves the right to refuse admission to the attraction, ban from entry to the attraction, or remove from the attraction without any right to a refund any person who breaches these terms and conditions.
  • Given the current situation with Covid we request that any visiting parties are respectful of all social distancing/one way systems and hygiene restrictions in place.
  • All visitors unless exempt are required to wear a mask whilst indoors